Owen Paterson
Mae’r Ysgrifennydd Amgylchedd, Owen Paterson wedi dweud bod y diwydiant bwyd yn “hollol benderfynol” o adfer ffydd cwsmeriaid yn eu cynnyrch yn dilyn yr helynt cig ceffyl.

Mae disgwyl i ganlyniadau rhagor o brofion ar gig eidion gael eu cyhoeddi erbyn diwedd yr wythnos hon.

Bu Owen Paterson yn cyfarfod â chynrychiolwyr o’r archfarchnadoedd yn San Steffan heddiw.

Dywedodd y dylai cwsmeriaid fod yn hyderus ar ôl i 99% o brofion ddangos nad oedd olion cig ceffyl yn y cynnyrch cig eidion sy’n cael ei werthu.

Rhoddodd addewid y byddai’n cyfarfod â’r archfarchnadoedd yn rheolaidd er mwyn sicrhau bod y cynnyrch sy’n cael ei werthu’n ddiogel.

Dywedodd wrth SKY News: “Mae’r diwydiant heddiw wedi ymrwymo i weithio mor galed ag y gallan nhw er mwyn cyhoeddi gweddill y canlyniadau erbyn dydd Gwener yma a byddan nhw’n cael eu cyhoeddi gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

“Gallai rhai gael eu cwblhau’r wythnos ganlynol o ystyried y pwysau sydd ar labordai o ran capasiti.”

‘Cyfarfod cynhyrchiol’

Dywedodd pennaeth y Consortiwm Manwerthu Prydeinig, Helen Dickinson fod y labordai’n gweithio’n galed i gyhoeddi’r canlyniadau ac y dylen nhw fod ar gael erbyn dydd Gwener.

“Roedden ni’n falch iawn bod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi cydnabod gwaith caled manwerthwyr wrth symud y rhaglenni profi ymlaen mor gyflym.

“Mae manwerthwyr yn cymryd eu cyfrifoldebau o ddifrif, ac maen nhw’n gwneud popeth fedran nhw i gynnal hyder cwsmeriaid ac i gynyddu eu gwyliadwriaeth.

“Mae’n amlwg y bydd yna bethau y bydd angen eu newid ar gyfer y dyfodol o ganlyniad i’r achosion hyn.”

Dywedodd llefarydd ar ran Sainsbury’s: “Roedd y cyfarfod yn gynhyrchiol ac mae’n dangos sut mae’r diwydiant yn cyd-dynnu i fynd i’r afael â’r materion gyda’r Llywodraeth a’r Asiantaeth Safonau Bwyd.

“Er nad yw Sainsbury’s wedi cael ei effeithio, gyda dim cig ceffyl yn ein cynnyrch ni o gwbl, rydym yn llwyr ymroddedig i chwarae ein rhan.

“Rydyn ni wedi defnyddio profion DNA ers dros ddegawd ac mae gennym ddulliau cynhwysfawr iawn o reoli ansawdd a phrofi ein holl gynnyrch, o’r rhai sylfaenol i Taste the Difference.”