Mae’r heddlu ym Mhapua New Guinea wedi cyhuddo dau berson o lofruddiaeth, wedi i ddynes gael ei llosgi i farwolaeth o flaen cannoedd o bobol.
Cafodd y fam ifanc Kepari Leniata, 20, ei harteithio gan dorf ar yr ynys, cyn i betrol gael ei dywallt drosti a’i gynnau gyda matsien.
Mae Janet Ware ac Andrew Watea wedi eu cyhuddo o lofruddiaeth.
Roedd Kepari Leniata wedi ei chyhuddo o ddewiniaeth gan deulu bachgen 6 oed a fu farw mewn ysbyty yn ddiweddar. Mae’r heddlu yn deall mai Ware a Watea oedd mam ac ewythr y bachgen bach.
Dywedodd yr heddlu bod cannoedd wedi gweld y dorf yn ymosod ar Leniata, gan gynnwys plant a phlismyn, ond eu bod wedi methu a rhwystro’r dorf. Mae disgwyl i fwy o bobol gael eu harestio ac mae’r heddlu yn ymchwilio i ymddygiad y plismyn oedd yn bresennol.
Mae poblogaeth wledig Papua New Guinea yn aml yn beio dewiniaeth am ddigwyddiadau di-esboniad, ond mae’r llofruddiaeth wedi denu beirniadaeth gref gan weddill y wlad.
Mae’r gosb eithaf yn dal i fod mewn grym ar yr ynys, ond nid oes carcharor wedi ei ddienyddio ers 1975.