Jennifer Mills-Westley
Mae dyn sydd wedi ei gyhuddo o ddienyddio mam-gu ar ynys Tenerife yn 2011 wedi gwadu ei fod e wedi byw yng Nghymru.

Yn ôl adroddiadau, cafodd Deyan Deyanov o Fwlgaria, ei gadw yn Ysbyty Glan Clwyd o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl yn 2010, yn dioddef o sgitsoffrenia.

Ar ddiwrnod cyntaf ei achos yn Tenerife, gwadodd Deyanov ei fod e wedi lladd Jennifer Mills-Westley mewn canolfan siopa ar yr ynys ar Fai 13, 2011.

Mae Deyanov wedi bod yn rhoi tystiolaeth i’r llys gyda chymorth cyfieithydd ar y pryd, ac fe ddywedodd y bore yma fod lleisiau yn ei ben wedi dweud wrtho am ladd y ddynes 60 oed.

Mae e’n honni bod y lleisiau wedi dweud wrtho ei fod yn “angel Iesu Grist sy’n mynd i greu Caersalem newydd”.

Disgrifiodd y lluniau camera cylch-cyfyng fel “montage a ffilm”, gan ddweud nad oedd yn ei adnabod ei hun o’r fideo.

Roedd wedi bod yn cymryd cocên ac LSD ar y pryd, a doedd e ddim yn cofio byw ar ynys Tenerife, meddai.