Dim ond 48% o ddefnyddwyr trenau First Great Western sydd yn hapus gyda’r gwasanaeth, yn ôl ymchwil gan gwmni defnyddwyr Which?.
First Great Western yw’r cwmni sy’n darparu trenau rhwng Abertawe a Paddington Llundain.
Nododd 48% o gwsmeriaid Arriva Trains Wales eu bod nhw’n hapus gyda’r gwasanaeth hwnnw.
First Capital Connect, yn ôl cwsmeriaid, yw’r cwmni gwaethaf ym Mhrydain, gyda 40% yn unig yn nodi eu bod nhw’n hapus gyda’r gwasanaeth.
Cafodd 7,500 o ddefnyddwyr trenau eu holi am y gwasanaethau maen nhw’n eu defnyddio.
Cafodd yr ymchwil ei chyhoeddi wedi iddi ddod i’r amlwg bod rheolwyr cwmnïau trenau yn derbyn cyflog o gannoedd o filoedd wrth i brisiau tocynnau gynyddu’n uwch na lefel chwyddiant.
Mae prif weithredwr Network Rail, Syr David Higgins yn derbyn cyflog sylfaenol o £560,000.
Mae’r ymchwil yn dangos bod 40% o ddefnyddwyr trenau’n debygol o leihau nifer eu teithiau trenau oherwydd y cynnydd o 4.2% ym mhris tocynnau.
Ond dywedodd traean o deithwyr nad oes ganddyn nhw ddewis ond defnyddio’r trenau i fynd i’r gwaith.
‘Angen bod yn deg gyda’u cwsmeriaid’
Dywedodd cyfarwyddwr gweithredol Which?, Richard Lloyd: “Gydag 1.5 biliwn o deithiau trên yn digwydd bob blwyddyn ac wyth o’r 17 o ryddfreiniau rheilffordd y DU ar gael yn y ddwy flynedd nesaf, dylai gwasanaethau cwsmeriaid fod ar frig agenda pob cwmni trenau.
“Mae’n dda gweld bod rhai yn perfformio’n dda o ran gwasanaethau, ond mae cwsmeriaid yn amlwg yn teimlo bod angen i eraill wneud yn well.
“Mae teithwyr yn dweud wrthym eu bod nhw wedi diflasu gydag oedi ar drenau, eu bod nhw’n orlawn ac yn frwnt.
“Mae hyn yn arbennig o siomedig gan na all nifer o deithwyr edrych o gwmpas neu newid y cwmni maen nhw’n teithio gyda nhw.
“Mae angen i gwmnïau trenau fod yn deg gyda’u cwsmeriaid, yn enwedig pan fod gofyn iddyn nhw dalu mwy am eu teithiau.”
‘85% yn fodlon’
Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas y Cwmnïau Gweithredu Trenau: “Mae’r rheoleiddiwr annibynnol Passenger Focus yn holi hyd at wyth gwaith yn fwy o bobol y flwyddyn a’r mis diwethaf, fe wnaethon nhw nodi bod 85% o deithwyr yn fodlon gyda’u gwasanaeth – sy’n record.”