Cynlluniau ar gyfer Lido Pontypridd
Bydd pwll nofio diffaith ym Mhontypridd yn cael ei adfywio o dan gynllun newydd i ail-ddatblygu’r dref a denu ymwelwyr.

Mae Lido Pontypridd, ym mharc Ynysangharad yn derbyn £6.3 miliwn fel rhan o gynllun i adfywio’r hen safle, ac adeiladu pwll nofio a fydd yn creu swyddi i weithwyr lleol a denu “degau o filoedd” o ymwelwyr bob blwyddyn.

Y bwriad yw creu 3 pwll nofio newydd, canolfan ymwelwyr gyda chaffi, a lle chwarae i blant.  Bydd y pyllau tu allan wedi eu cynhesu, a bydd un pwll i blant yn unig.

Dywedodd Cyngor Rhondda Cynon Taf y byddai hanner yr arian yn dod o gyllid datblygiad Ewropeaidd, a £2 miliwn o Gronfa Dreftadaeth y Loteri.  Bydd y cyngor a Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, yn buddsoddi gweddill yr arian.

“Rydym ni wedi gweithio’n galed iawn i sicrhau’r cynllun yma, a’r cynnig o gyllid gan Lywodraeth Cymru yw’r gorau gallwn obeithio amdano,” meddai arweinydd y cyngor, Anthony Christopher.

“Mae’r cynllun yma, a’r ail-ddatblygu yn y dref ei hun yn golygu bod Pontypridd yn elwa o’r buddsoddiad fwyaf yn ei hanes.”

Mae’r cynllun yn rhan o fwriad mwy i ail-ddatblygu Pontypridd a denu swyddi ac ymwelwyr i’r dref.  Bydd canol tref Pontypridd a’r orsaf drenau hefyd yn cael eu hadfywio.