Michael Gove
Mae gweithwyr yn yr Adran Addysg wedi pleidleisio o blaid mynd ar streic yn dilyn anghydfod dros doriadau gwariant a diswyddiadau.
Roedd aelodau o’r undeb Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (PCS) wedi pleidleisio o blaid cynnal streic o 2-1, a ffurfiau eraill o weithredu diwydiannol o bron i 9-1.
Dywedodd yr undeb eu bod yn credu bod yr Ysgrifennydd Addysg Michael Gove yn defnyddio’r adran fel sail ar gyfer toriadau pellach yn y gwasanaeth sifil.
Mae tua 1,000 o swyddi dan fygythiad oherwydd y toriadau mewn gwariant, medd yr undeb.
Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol y PCS Mark Serwotka y byddai’r diswyddiadau hefyd yn peryglu rhai gwasanaethau cyhoeddus “hanfodol” gan gynnwys sicrhau bod plant yn ddiogel yn yr ysgol a chefnogi addysg anghenion arbennig, meddai.