Richard Briers yn The Good Life gyda Felicity Kendal
Mae’r actor Richard Briers wedi marw yn 79 oed.
Roedd e wedi bod yn dioddef o afiechyd yr ysgyfaint ers nifer o flynyddoedd.
Roedd yn actor Shakespeareaidd cydnabyddedig, ond fe fydd yn cael ei gofio’n bennaf am ei gymeriad Tom Good yng nghomedi BBC1 The Good Life, oedd yn briod â chymeriad Felicity Kendal.
Ymddangosodd mewn nifer o raglenni’r BBC, gan gynnwys Ever Decreasing Circles a Monarch of the Glen.
Roedd hefyd wedi lleisio rhan y cymeriad Fiver yn y ffilm Watership Down yn 1978.
Derbyniodd yr OBE yn 1989 am ei wasanaeth i’r celfyddydau.
Roedd yn briod â’r actores Anne Davies ac mae ganddyn nhw ddwy o ferched.
Roedd yn ysmygwr trwm hyd at ddeng mlynedd yn ôl a bu’n dioddef o emffysema ers hynny.
Dywedodd ei asiant, Christopher Farrar: “Roedd Richard yn ddyn hyfryd, yn broffesiynol i’r carn ac yn hyfryd cael gweithio gyda fe.
“Yn dilyn ei drafodaeth ddiweddar ynghylch ei frwydr yn erbyn emffysema, rwy’n gwybod ei fod e wedi’i gyffwrdd yn fawr gan y gefnogaeth a gafodd gan ffrindiau a’r cyhoedd.
“Mae iddo le unigryw ac arbennig yng nghalonnau cynifer o bobol. Bydd colled fawr ar ei ôl. Mae ein meddyliau a’n cydymdeimlad gyda’i deulu yn y cyfnod trist hwn.”