Mae’r nofel fawr ‘War and Peace’ yn cael ei throi’n gyfres deledu gan y BBC.

Bydd clasur Leo Tolstoy yn cael ei haddasu ar gyfer y sgrîn gan yr awdur o Gaerdydd, Andrew Davies, a bydd yn cael ei dangos ar y teledu ar ffurf cyfres chwe rhan.

Cafodd cyfres 20 rhan ei chreu a’i darlledu yn 1972, ac roedd y gyfres honno’n cynnwys yr actor o Bort Talbot, Anthony Hopkins.

Dydy’r actorion ar gyfer y gyfres newydd ddim wedi cael eu dewis eto, ond mae disgwyl i’r gyfres gael ei darlledu yn 2015.

Cafodd y gyfrol ei hysgrifennu yn 1869, ac mae’n adrodd hanes teuluoedd aristocrataidd a gafodd eu heffeithio gan Ffrainc yn ymosod ar Rwsia yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Andrew Davies yw awdur y gyfres boblogaidd ar ITV, Mr Selfridge, ac mae e hefyd wedi addasu Pride and Prejudice, Middlemarch a Sense and Sensibility.

‘Stori afaelgar, ddoniol a thorcalonnus’

Dywedodd rheolwr rhaglenni BBC1, Danny Cohen: “Mae War and Peace yn wirioneddol fawr o ran graddfa ac mae’n adeiladu ar ymrwymiad BBC1 i ddod â drama o’r safon a’r effaith fwyaf posibl i gynulleidfaoedd.

“Mae’n cael ei hadrodd dros chwe rhaglen, ac fe fydd Andrew Davies yn dod â’i bwerau addasu rhagorol i’r gwaith llenyddol mawr hwn.

“Nid yn unig mae’n nofel wych, mae’n darllen yn rhyfeddol ac mi fydd yn gwneud cyfres ragorol. Stori afaelgar, ddoniol a thorcalonnus o gariad, rhyfel a bywyd teuluol.

“Mae’r cymeriadau mor naturiol a dynol a hawdd uniaethu â nhw, ac mae Natasha Rostova ychydig ar y blaen i Lizzy Bennet fel yr arwres hawsaf ei charu yn y byd llenyddol.”

Dywedodd y cynhyrchydd gweithredol, Faith Penhale: “Caiff y gynulleidfa heddiw ei thynnu i mewn i stori ysgubol am fywyd a chariad yn ystod cyfnod o wrthdaro, gyda chynhyrchiad rhyfeddol sy’n dod â gweledigaeth fawr a maint y nofel yn fyw.”