Mae streic gan ohebwyr o fewn y BBC yn cael effaith ar raglenni’r gorfforaeth heddiw, gan gynnwys Radio Cymru.
Ers hanner nos mae aelodau Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr (NUJ) yn protestio yn erbyn diswyddiadau gorfodol, ac mae rhaglenni megis Post Cyntaf ar Radio Cymru a Today ar Radio 4 wedi cael eu byrhau heddiw.
Mae piced wedi dechrau ers 7.30 y tu allan i bencadlys BBC Cymru yn Llandaf.
Yn ôl yr undeb mae 7,000 o swyddi wedi diflannu o fewn y BBC ers 2004, a 2,000 arall yn y fantol dan gynlluniau i wneud arbedion ariannol.
“Mae aelodau’r NUJ ar draws y BBC yn gweithredu i amddiffyn swyddi a newyddiaduraeth o ansawdd,” meddai ysgrifennydd cyffredinol y NUJ, Michelle Stanistreet.
“Maen nhw’n ddig at benderfyniadau sâl ar dop y BBC sy’n gorfodi newyddiadurwyr o’u swyddi ac yn peryglu enw da rhaglenni.”
Golygydd Materion Cymreig: Llewod ac asynnod
Yn ôl yr undeb mae swyddi yn y fantol ar draws y BBC, gan gynnwys yr Alban a rhanbarthau Lloegr. Un newyddiadurwr sy’n anfodlon gyda chynnal streic gan staff yng Nghymru yw Golygydd Materion Cymreig y BBC.
“Mae’r undeb yn gofyn i mi streicio dros bobol Llundain tra wnaethon nhw ddim byd dros bobol Caerdydd,” meddai Vaughan Roderick ar ei gyfrif Twitter.
“Yn ôl yr arfer yng Nghymru – llewod yn cael eu harwain gan asynnod,” meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran y BBC fod y gorfforaeth yn anhapus fod yr NUJ wedi penderfynu gweithredu, a bod y BBC yn “gweithio’n galed i sicrhau fod gweithwyr yn cael eu hadleoli” ac yn gweithio gyda’r undebau i gynnig cefnogaeth.