Fe fydd cynyrchiadau ar y cyd gyda sianeli ac ieithoedd eraill yn rhan fawr o gynlluniau S4C ar gyfer y dyfodol.

Maen nhw’n trafod gyda rhai o brif sianeli Ewrop yn y gobaith o allu datblygu partneriaethau ar gyfer rhaglenni newydd.

Tai Bach

Ac mae cwmni sydd newydd ennill enwebiad am un gyfres o’r fath eisoes yn gweithio ar un newydd gyda sianell Saesneg.

Y diwrnod ar ôl i Gyfarwyddwr Cynnwys S4C groesawu llwyddiant cydgynyrchiadau, fe gafodd ‘Tai Bach y Byd’ gan Cwmni Da a Western Front Films ei enwebu am wobr yn nghategori’r gyfres ffeithiol orau yn yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd yn Abertawe.

Ac fe gyhoeddodd y ddau gwmni eu bod bellach yn gweithio ar gyfres debyg ar gyfer BBC4 ond y tro yma am lefydd sanctaidd yng ngwledydd Prydain.

Yn ôl cynhyrchydd y rhaglen, Ifor ap Glyn, mae cynyrchiadau ar y cyd am fod yn bwysicach nag erioed oherwydd toriadau ariannol.

“Mae’r esgid yn gwasgu ble mae S4C dan sylw ac mae sianelau eraill yn wynebu toriadau hefyd felly

Cyd-gynhyrychu yn effeithiol
Yn ôl Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, mae rhaglenni fel Llefydd Sanctaidd a’r cynlluniau ar gyfer cyfres dditectif Mathias Hinterland, yn dangos bod cyd-gynhyrchu’n ffordd effeithiol o ddod â rhaglenni uchelgeisiol i gynulleidfa Gymraeg.

“Mae’r llwyddiant ry’n ni yn ei weld gyda chyd-gynyrchiadau ar hyn o bryd yn atgyfnerthu ein hyder yn ein penderfyniad i sicrhau bod prosiectau o’r math yma’n rhan bwysig iawn o’n cynlluniau,” meddai.

Roedd patrneriaethau’n gallu rhoi cyfle i wneud prosiectau a fyddai, fel arall, y tu hwnt I gyrraedd S4C, meddai ac roedd Ifor ap Glyn yn pwysleisio gwaith tymor hir.

“Dyna un o’r pethau pwysig efo’r rhain,” meddai. “Datblygu partneriaethau meithrin perthynas hefo darlledwyr neu gwmniau eraill. Mae o o fudd i’r cwmni, i S4C a delwedd cynnyrch Cymrieg.”

Cymru a thu hwnt

Ac mae S4C yn trafod gyda chwmniau byd eang am y posibilrwydd o bartneriaeth ar hyn o bryd.

“Mae S4C yn trafod gyda nifer o bartneriaid posib ar hyn o bryd gan gynnwys NHK o Japan, ZDF yn yr Almaen a France 5, yn y gobaith o allu cytuno ar fwy o gyd-gynyrchiadau,” meddai Dafydd Rhys.

“Ry’n ni’n ffyddiog bydd yna fanteision mawr i’n cynulleidfaoedd drwy ddilyn y polisi yma ymhellach.”