Richard Burton
Bydd yr actor Cymreig, Richard Burton, yn cael ei anrhydeddu ar Lwybr Enwogion Hollywood Ddydd Gŵyl Dewi eleni.
Bydd seren yn cael ei gosod ar y llwybr i gofio’r Cymro Cymraeg o Bontrhydyfen, ger seren ei gyn-wraig, Elizabeth Taylor.
Mae’r anrhydedd yn cyd-daro gyda dathliad hanner can mlwyddiant y ffilm Cleopatra lle y dechreuodd y garwriaeth rhwng y ddau.
Fe fu papur y Western Mail a’r academydd, yr Athro Dylan Jones-Evans, yn arwain ymgyrch i anfarwoli Richard Burton, gan drafod gyda chwmni Twentieth Century Fox a siambr fasnach Los Angeles.
Y cefndir
Fe fu Burton a Taylor yn briod ddwywaith, rhwng 1964 a 1974 ac wedyn am flwyddyn ar ôl 1975.
Cyhoeddodd y BBC yr wythnos hon y bydd ffilm yn cael ei chynhyrchu yn olrhain eu perthynas trwy’r cynhyrchiad Private Lives yn 1983, flwyddyn yn unig cyn y bu farw Richard Burton.
Dominic West fydd yn chwarae rhan Burton, tra bydd Taylor yn cael ei phortreadu gan Helena Bonham-Carter.
Pobol Cymru ‘wrth eu bodd’
Dywedodd yr Athro Dylan Jones-Evans: “Rwy’n sicr y bydd pobol Cymru wrth eu bodd ei fod e’n derbyn yr anrhydedd hon ar y diwrnod mwyaf arbennig i Gymru, Dydd Gŵyl Dewi.
“Fydd y gydnabyddiaeth gyhoeddus hon i gorff gwaith Richard Burton nid yn unig yn helpu i godi proffil Cymru’n rhyngwladol, ond hefyd fe fydd yn helpu i godi arian i ddarparu ysgoloriaethau yn enw’r actor chwedlonol i gefnogi talent Gymreig ifanc yn y Coleg Brenhinol Cerdd a Drama.”