Michael Le Vell yn actio Kevin Webster
Mae un o sêr Coronation Street wedi cael ei gyhuddo o 19 o droseddau rhywiol yn erbyn plentyn.

Fe fydd Michael Le Vell, sy’n actio rhan y perchennog garej Kevin Webster yn y gyfres sebon, yn ymddangos o flaen llys ym Manceinion mewn llai na phythefnos.

Mae’r cyhuddiadau’n cynnwys treisio plentyn, ymosod yn rhywiol ar blentyn a gweithgaredd rhywiol gyda phlentyn.

Yr honiad yw fod y troseddau wedi digwydd rhwng 2001 a 2010.

Fe gafoddd yr actor o Hale yn Sir Caer ei gyhuddo o dan ei enw go iawn, Michael Robert Turner ar ôl i Wasanaeth Erlyn y Goron ystyried tystiolaeth yn ei erbyn a phenderfynu bod achos i’w ateb.

Roedd wedi cael ei arestio i ddechrau ym mis Medi y llynedd ond, ar y pryd, fe gafodd y mater ei ollwng.