Mae rhaglen Jonathan ymhlith wyth o raglenni S4C sydd wedi cyrraedd rhestr fer un o wobrau’r Ŵyl Cyfryngau Celtaidd.
Mae’r ŵyl yn cael ei chynnal yn Abertawe ddiwedd Ebrill ac mae wyth o raglenni a dau wasanaeth arall gan S4C ar restr fer Gwobrau’r Torch Efydd.
Ymhlith y rhaglenni mae Gwlad yr Astra Gwyn, Gwaith Cartref a Tai Bach y Byd.
Cafodd trefnwyr y gwobrau 425 o geisiadau o’r Alban, Cernyw, Llydaw, Ynys Manaw, Iwerddon a Chymru, ac mae’r rhestr fer wedi ei llunio gan banel rhyngwladol.
Cydnabyddiaeth
Dywedodd Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Dafydd Rhys, ei bod hi’n “braf iawn i weld cynnwys S4C mor amlwg yn y rhestr fer ryngwladol yma.”
“Mae’r gydnabyddiaeth yn y categorïau digidol yn adlewyrchu’r pwyslais mae S4C nawr yn rhoi ar sicrhau bod cynnwys S4C ar gael yn y ffyrdd mwyaf cyfoes, ar gymaint â phosib o blatfformau i sicrhau bod y gynulleidfa yn gallu ei fwynhau ble bynnag a phryd bynnag maen nhw’n dymuno.”
Mae’r gwobrau yn cynnwys 20 o gategorïau ym meysydd animeiddio, materion cyfoes, drama, adloniant, chwaraeon, a rhaglenni ffeithiol, ac mae categorïau newydd eleni am yr app gorau, rhaglen gerddoriaeth, a chwaraeon radio. Dyma’r enwebiadau o stabal S4C:
Calon Cartŵn (Cynhyrchiad Griffilms)
Afal Drwg Adda (Cynhyrchiad Cwmni Da)
Abadas (Cynhyrchiad Dinamo)
Y Byd ar Bedwar: Chwilio am April (Cynhyrchiad ITV Cymru)
Gwaith Cartref (Cynhyrchiad Fiction Factory)
Jonathan – Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2012 (Cynhyrchiad Avanti)
Tai Bach y Byd (Cynhyrchiad Cwmni Da)
Gwlad yr Astra Gwyn (Cynhyrchiad Rondo Media)
Y Lifft – Gwasanaeth Ail Sgrin (Cynhyrchiad Boom Pictures Cymru)
Y Tywydd – App (Cynhyrchiad Tinopolis)