9bach (llun o'u gwefan)
Bydd y band gwerin 9Bach yn teithio i Toronto penwythnos nesaf er mwyn chwarae mewn cynhadledd gerddoriaeth ryngwladol.
Mae cynhadledd y Folk Alliance, sydd yn ei phumed blynedd ar hugain, yn gyfle i fandiau ac unigolion gyfarfod a chwarae o flaen pobol broffesiynnol y diwydiant cerddoriaeth werin, gyda’r nod o wneud cysylltiadau busnes tramor a chael gwaith yn rhyngwladol.
Cafodd y band wahaddiad i fynd i Toronto ar ôl chwarae ar lwyfan Cymru yng Ngŵyl Womex yn Copenhagen yn 2010.
‘Nid joli hoit’
Yn ôl Lisa Jen, prif ganwr y band, nid “joly hoit” yn unig fydd y trip.
“Mae o’n swnio fel digwyddiad arbennig,” meddai wrth Golwg 360.“Ydan ni’n rili edrych ‘mlaen am y trip ond mi fydd o’n eitha full-on.”
“Yn ogystal â’r sioeau swyddogol, mi fyddwn ni’n gwnued pethau i’r ffrinj hefyd felly mi fyddwn ni’n chwarae tua 2-3 sioe y diwrnod – efo rhai ohonyn nhw’n dechrau am tua 3 y bore.”
“Ond os ydan ni am deithio i ochr arall y byd, waeth i ni gigio lot ac mae o’n gyfle gwych i gael mwy o bobl i wrando arnon ni.”
9Bach a Martin Joseph yw’r unig ddwy act o Gymru sydd wedi cael gwahoddiad i chwarae ar lwyfannau swyddogol y Folk Alliance er y bydd Georgia Ruth yn ymuno â nhw yng Nghanada i chwarae mewn gigiau preifat.
Albwm newydd
Ac mae 9Bach wedi gorffen albwm newydd fydd allan o gwmpas yr hydref.
“Ydan ni am ei ryddhau o cyn gynted â phosib,” meddai Lisa Jen. “Ond gyda’r un yma, mae’r caneuon yn wreiddiol i gyd – arwahân i un trac traddodiadol – sy’n gam mewn cyfeiriad gwahanol i ni fel band.”
Ond cyn hynny, mae Toronto yn galw, ac er yr oriau hir fydd yn eu disgwyl, dywedodd Lisa Jen ei bod hi hefyd yn edrych ymlaen i wneud cysylltiadau newydd a chael cyfle i weld band neu ddau hefyd.