Gwenno - yn barod am raglen newydd
Cantores o Gaerdydd fydd yn cyflwyno’r rhaglen wythnosol Gymraeg gyntaf ar orsaf radio’r brifddinas.
Mae Gwenno Saunders wedi cyhoeddi mai ‘Cam o’r Tywyllwch’ fydd enw’r rhaglen a fydd i’w chlywed ar donfeddi Radio Cardiff am y tro cynta’ heno rhwng 8 a 10.
Dywedodd Gwenno wrth Golwg360 ei bod hi’n bwysig cael darpariaeth Gymraeg ar orsaf gymunedol y brifddinas.
“Dyna’r peth pwysicaf fi’n credu,” meddai. “Mae cymaint o Gymry Cymraeg yn byw yng Nghaerdydd erbyn hyn a does dim sioe radio leol i ddangos hynny. A dyna’r peth am Radio Cardiff, mae e wir yn gynyrchiadol o’r ddinas ac mae hynny’n bwysig.”
Peski hefyd
Er mai Gwenno sy’n cyflwyno’r rhaglen, mae criw y label recordiau Peski a’u ffrindau hefyd yn gysylltiedig â’r sioe.
Dywedodd Gwenno y byddai’r rhaglen yn “chwarae cerddoriaeth amgen, arbrofol ac arloesol o Gymru ac o bob cyfnod”.
“Does dim ffiniau,” meddai. “ Ond hefyd, mae lot o gerddoriaeth Cymraeg sydd ddim efallai yn cael lot o sylw yn y brif ffrwd ond yn debyg i ddeunydd rhyngwladol, felly r’yn ni am geisio paru pethau gyda’i gilydd.”
Gwahodd gwesteion
Mae Gwenno hefyd yn gobeithio ehangu’r rhaglen i gael gwesteion yn yr wythnosau nesaf.
“Mae cymaint o bobl yng Nghaerdydd yn gwneud pethau diddorol – mewn celf, cerddoriaeth neu ar we – ac mi fyddai’n grêt cael cymaint o bobol ag sy’n bosib sy’n rhannu’r un welwdigaeth i fod ar y rhaglen.
“Mae byw yng Nghaerdydd yn gyffrous iawn ar hyn o bryd – mae cymaint o bethau amgen yn mynd ymlaen yma – a beth ni eisiau ei wneud yw adlewyrchu Caerdydd gyfoes sydd ar i fyny.”
Stori: Ciron Gruffydd