Gydag un o ffeiriau mwyaf y fasnach gerddoriaeth ryngwladol yn dod i Gymru eleni, mae trefnwyr gŵyl Ffrinj Caerdydd hefyd yn gobeithio arddangos y gorau o gerddoriaeth Cymreig i ymwelwyr o bedwar ban byd.

Heno, bydd digwyddiad cyntaf Ffrinj Caerdydd yn cael ei gynnal yng nghlwb Full Moon yn y ddinas – y cyntaf o lawer meddai un o’r trefnwyr, Daf Wyn, sydd hefyd yn blogio dan yr enw Dai Lingual.

“Ni’n lawnsio heno gyda noson ‘Nid Noson Santes Dwynwen Mo Hon’ ac r’yn ni’n gobeithio mai hon fydd y cyntaf o nosweithiau misol cyn i Womex ddod yma ym mis Hydref.”

Womex ar y ffordd

Womex  – The World Music Expo – yw’r ffair fasnach gerddoriaeth ryngwladol ar gyfer cerddoriaeth byd, gwerin ac ieithoedd lleiafrifol ac, eleni, fe fydd hi’n cael ei chynnal yng Nghaerdydd.

“Llynedd, fe es i i gyfarfod i drafod Womex yn dod i Gaerdydd. Roedd llawer o bobol o’r diwydiant a phobol leol yno i weld beth fyddai Caeredydd yn ei gael o’r ŵyl,” meddai Daf Wyn.

“Ar ôl y cyfarfod reddwn i’n eitha pendant fy mod i eisiau sicrhau y byddai diwylliant Cymraeg yn cael ei gynrhychioli. Rhan o hyn, wrth gywrs, yw bod yr iaith Gymraeg yn cael ei chynrychioli hefyd.”

“Os fyswn i’n ddigon lwcus i fynd i Womex yn Japan, er enghraifft, buaswn i eisiau gweld y gorau sydd gan Japan i’w gynnig hefyd, nid cerddoriaeth gweddill y byd yn unig.

“Felly yn hytrach phoeni na fyddai dim yn digwydd, fe benderfynais i wneud rhwybeth fy hun.”
Cyfranogi
Bydd Hywel Pitts, David Mysterious, Gentle Good a Dubrobots Soundsystem yn chwarae yn y digwyddiad heno a bydd digwyddiad arall  o’r enw Twmpath yn cael ei gynnal yn nhafarn Dempseys ar 7 Mawrth.

“Bydd Womex yn dechrau ar y dydd Mercher ar ôl penwythnos Gŵyl Sŵn ym mis Hydref sy’n golygu y bydd nifer o bobol o’r diwydiant yn y ddinas eisiau gwybod beth sydd gan Caerdydd i’w gynnig ar y dydd Llun a dydd Mawrth. Y gobaith yw y bydd Frinj Caerdydd yn gallu gwneud hynny,” meddai Daf Wyn

Mae posib dilyn Ffrinj Caerdydd ar Twitter – @cardiffrinj – i gael y newyddion diweddaraf  a gwybodaeth am eu digwyddiadau.