Carwyn Ellis
Bydd caneuon y grŵp Cymreig, Colorama, yn cefnogi un o fawrion y sîn Brydeinig ar daith yn Sbaen ym mis Chwefror 2013.

Fe fydd sylfaenydd y band, y cerddor Carwyn Ellis, yn chwarae tair gig yn y wlad cyn teithio i bump o leoliadau lle bydd yn cefnogi Edwyn Collins ar daith.

Ond cyn hynny, â’r band newydd gyhoeddi albwm byr newydd sydd ar gael o itunes yn unig – Do The Pump Digi-EP – byddan nhw’n gigio yng Mhrydain gyda dyddiadau ym Methesda ac yn Wrecsam.

Mae Carwyn Ellis wedi cydweithio llawer â Collins yn y gorffennol ac mae’n aelod o’i fand ond dyma’r tro cyntaf iddo fynd â gwaith Colorama i Ewrop.

‘Y tro cyntaf’

“Er fy mod i wedi mynd â Colorama i Japan yn ôl yn 2007 fi’n credu, dyma’r tro cyntaf yn Ewrop,” meddai Carwyn Ellis wrth Golwg360.

“A fi’n rili, rili edrych ‘mlaen oherwydd fi wedi chwarae gyda pobol eraill ar y cyfandir o’r blaen ond dim fy stwff fy hun.”

Taith acwsig yn unig fydd y daith o Sbaen a fydd gweddill Colorama ddim yn chwarae gyda Carwyn Ellis.

‘Hanner pris’

“Fi’n gwnued hyn fel taith hanner pris,” meddai Carwyn Ellis. “Fi’n chwarae gyda Edwyn ac yn gwneud stwff Colorama hefyd. Mae hi’n ddigon anodd cael y band i gyd i gyrraedd Bethesda, heb sôn am Sbaen!”

Ac er mai newydd gyhoeddi’r EP newydd y mae’r band, mae’n edrych ymlaen at gyhoeddi rhagor o ddeunydd erbyn diwedd y flwyddyn.

“Ni wedi bennu’r albwm newydd ac yn mynd i fastro fe’r penwythnos yma, fel mae’n digwydd. Felly, fi’n credu bydd EP newydd allan ym mis Mai ac albwm yn yr hydref.”

Manylion gigs Colorama yng Nghymru a Lloegr:

Thursday 28th February – Neuadd Ogwen, Bethesda

Friday 1st March – Saith Seren, Wrexham

Saturday 2nd March – Leaf, Lerpwl

Thursday 7th March – The Studio, Hartlepool

Friday 8th March – Jericho Tavern, Rhydychen