Gerallt Lloyd Owen
Mewn ffordd anfwriadol, fe wnaeth Lerpwl ffafr â Chymru trwy fynnu boddi Capel Celyn a chodi argae Tryweryn.

Dyna farn un o feirdd pwysica’ Cymru mewn rhaglen deledu arbennig sydd wedi ei chreu amdano.

Roedd “yr holl beth”, meddai Gerallt Lloyd Owen, “wedi tanio  ryw don newydd o Gymreictod.”

Roedd y boddi wedi gwneud i’r Cymry sylweddoli “nad oedden ni’n cyfri’ diawl o ddim – na’r Gymraeg, na’n diwylliant ni, na dim. Roedd hwnna’n agoriad llygad.”

Yn y rhaglen ddogfen, mae’n sôn hefyd am gerddi Cadair yr Urdd 1969 a’r llinellau enwog … “Wylit, wylit Lywelyn, Wylit waed pe gwelit hyn”.

Rhagor am y rhaglen yn rhifyn yr wythnos yma o Golwg