Oscar Pistorius (Llun: PA)
Mae’r athletwr Olympaidd a Pharalympaidd, Oscar Pistorius wedi cydymdeimlo gyda theulu ei gariad, ond gan wadu ei fod wedi’i llofruddio.
Mae teulu a rheolwyr Pistorius wedi gwneud yr un peth a gwadu’r cyhuddiad ar ei ran.
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd: “Yn gyntaf, ac yn bwysicaf oll, mae ein meddyliau ni heddiw, wrth reswm, gyda theulu a ffrindiau Reeva Steenkamp.
“Mae’r honiad o lofruddiaeth wedi’i wrthod yn y modd cryfaf posibl. Mae e wedi datgan ei ddymuniad yn glir i fynegi ei gydymdeimlad dwysaf at deulu Reeva.
“Hoffai hefyd fynegi ei ddiolch drwyddon ni heddiw am yr holl negeseuon o gefnogaeth y mae e wedi eu derbyn – ond fel y nodwyd, dylai ein meddyliau a’n gweddi heddiw gael eu neilltuo ar gyfer Reeva a’i theulu, beth bynnag fo amgylchiadau’r drasiedi ofnadwy hon.”
Yr achos
Ymddangosodd Pistorius, sy’n 26 oed, yn y llys yn Pretoria y bore yma, wedi ei gyhuddo o saethu Reeva Steenkamp, 30 oed, yn farw.
Dechreuodd lefain pan gafodd y cyhuddiad ei gyflwyno yn ei erbyn yn llys ynadon.
Roedd teulu Pistorius yno ar gyfer y gwrandawiad, pan gafodd ei gadw yn y ddalfa mewn swyddfa heddlu tan y bydd gwrandawiad i’w gais am fechnïaeth yr wythnos nesaf.
Dywedodd yr erlynwyr y bydden nhw’n cyflwyno dadl fod y llofruddiaeth wedi ei chynllunio ymlaen llaw.