Subhan Anwar (Llun Heddlu)
Mae’r llofrudd plant Subhan Anwar wedi cael ei ladd ar ôl cael ei gaethiwo mewn cell yn y carchar.
Mae dau garcharor arall wedi cael eu harestio ar amheuaeth o’i lofruddio yng ngharchar Long Lartin yng nghanolbarth Lloegr.
Cafodd Anwar, oedd yn 24 oed, ei garcharu am lofruddio merch ddwy oed ei bartner ar ôl ei harteithio am gyfnod o fis. Roedd hynny’n cynnwys ei rhoi mewn peiriant sychu dillad ac mewn bin.
Cafodd Anwar ddedfryd o garchar am o leiaf 23 o flynyddoedd yn 2009, a chafodd ei bartner, Zahbeena Navsarka ddedfryd o naw mlynedd am ddynladdiad.
Roedd y ddau o Huddersfield wedi honni bod y ferch fach wedi peidio ag anadlu yn y bath ar ôl iddi gael ei gadael ar ei phen ei hun am 10 munud. Ond roedd ganddi 107 o anafiadau pan fu farw.
Mae’r ddau ddyn sydd wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddio Anwar yn 45 oed a 47 oed, a’r gred yw eu bod eisoes yn y carchar am oes am droseddau eraill.