Llifogydd Ceredigion - haf 2012
Fe fu’n rhaid i gwmnïau yswiriant dalu £1.19 biliwn am ddifrod oherwydd llifogydd yn ystod 2012.
Dyma’r ffigwr ucha’ ers pum mlynedd, gyda bron hanner miliwn o geisiadau yswiriant – cyfartaledd o fwy na 1,300 y dydd.
Roedd ardaloedd Aberystwyth a Thalybont, Rhuthun a Llanelwy ac Arfon ymhlith yr ardaloedd a ddioddefodd oherwydd llifogydd dinistriol.
Cymdeithas Yswirwyr Prydain – yr ABI – sydd wedi casglu’r ffigurau, a’r rheiny’n dangos fod 411,000 o’r ceisiadau am arian yn ymwneud â llifogydd mewn tai.
Trafod cytundeb newydd
Ar hyn o bryd, mae’r Gymdeithas yn trafod gyda’r Llywodraeth er mwyn cael cynllun newydd i gynnig yswiriant i bobol sy’n byw mewn ardaloedd risg uchel.
Mae’r cytundeb presennol yn dod i ben ym mis Mehefin ac, yn ôl y Gymdeithas, maen nhw wedi awgrymu cynllun newydd i’r Llywodraeth.
“Llifogydd yw’r bygythiad naturiol mwya’ sy’n wynebu’r Deyrnas Unedig ac mae’r risg yn cynyddu,” meddai Nick Starling, Cyfarwyddwr Yswiriant Cyffredinol y Gymdeithas.
“Mae’n hanfodol cael cytundeb gwleidyddol ac ymrwymiad i fuddsoddi mewn amddiffynfeydd, i wneud penderfyniadau cynllunio call a gweithio gyda’r diwydiant yswiriant.”