Canolfan siopa newydd Caerdydd
Mae yna fwy o newyddion gwael i’r stryd fawr ar ôl i ffigurau ddangos fod gostyngiad annisgwyl wedi bod mewn gwerthiant yn y siopau yn ystod y mis diwethaf.
Rhwng Rhagfyr a Ionawr disgynnodd gwerthiant o 0.6%, yn groes i’r darogan y byddai yna gynnydd.
- Roedd yr eira a’r rhew wedi cael effaith ar siopau groser bychain medd y Swyddfa Ystadegau, a disgynnodd eu gwerthiant nhw o 1.6%.
- Mae gwerthiant bwyd mewn siopau bychain wedi cwympo o 14.9% o gymharu â’r un adeg y llynedd.
- Un eithriad yw’r archfarchnadoedd sydd wedi elwa trwy werthu tros y We.
Mae’r gostyngiad annisgwyl ac yn mynd i gynyddu’r pryder fod gwledydd Prydain yn wynebu dirwasgiad am y trydydd chwarter yn olynol.
Y cwmni stryd fawr ddiweddaraf i ddioddef yw siop ddillad Republic, sydd wedi galw’r gweinyddwyr i mewn yr wythnos yma.