Yr henoed yw un grwp sydd angen gofal
Mae mwy o bobol yn rhoi gofal am ddim yng Nghymru nag yn Lloegr.
Ac mae’r canran sydd wedi gwneud hynny wedi cynyddu’n sylweddol yn ystod y deng mlynedd diwetha’.
Dyma’r ffeithiau moel o ystadegau o Gyfrifiad 2011 sydd wedi eu cyhoeddi gan y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol.
Yn ôl ystadegau newydd, mae 12% o boblogaeth Cymru yn rhoi gofal o ryw fath I gleifiion, pobol anabl neu’r henoed, gyda nifer y gofalwyr wedi codi ym mron pob rhan o’r wlad.
Ychydig tros 10% yw’r ffigwr ar gyfer Cymru a Lloegr ac mae yna wahaniaeth amlwg rhwng ardaloedd tlotach Cymru a gogledd Lloegr, ar un llaw, a chyfoeth de Lloegr ar y llall.
Ardal Castell Nedd Port Talbot sydd â’r ffigurau ucha’ trwy Gymru a Lloegr gyda bron un o bob saith o bobol yn cynnig gofal am ddim.
Y manylion
- Yn Sir Gaerfyrddin yr oedd y cynnydd mwya’ o ran niferoedd – cynnydd o 2,100 ers 2001.
- Roedd newid mawr yn Sir Fynwy hefyd, gyda chynnydd o 11.2%
- Dim ond yn awdurdodau Wrecsam a Chaerdydd yr oedd gostyngiad.
- Trwy Gymru a Lloegr, mae 5.5 miliwn o bobol yn ofalwyr di-dâl, cynnydd o 600,000.
- Yn 2011, roedd 1.4 miliwn o’r rheiny’n rhoi mwy na 50 awr o ofal bob wythnos.
Y gwaetha’
Ardal Castell Nedd a Phort Talbot sydd â’r canran uchaf o ofalwyr di-dâl drwy Gymru a Lloegr, gyda 14.6% o’r boblogaeth yn ofalwyr o ryw fath.
Mae hyn ddwywaith cymaint ag ardal Wandsworth yn Llundain, lle mae 6.5% yn gofalu am deulu neu ffrindiau.
Yn 2011, roedd 37.7% o boblogaeth Nedd a Phort Talbot yn sgur yn economaidd, un o’r canrannau uchaf yng Nghymru.
Roedd 1 o bob 10 yn y sir yn dioddef o salwch neu anabledd hirdymor, a chwarter o’r boblogaeth yn derbyn budd-daliadau o ryw fath.