Does dim penderfyniad terfynol wedi’i wneud a fydd Cyngor Caerdydd yn gwneud cais i gynnal Gemau’r Gymanwlad yn 2026.
Ar ôl llond lle o ddyfalu yn y cyfryngau, fe gadarnhaodd llefarydd eu bod yn dal i “ystyried y posibilrwydd” o wneud hynny ar y cyd gyda Llywodraeth Cymru.
“Mae cynnal Gemau’r Gymanwlad yn un cynllun sy’n cael ei ystyried,” meddai llefarydd ar ran y Cyngor. “Mae’r Cyngor yn edrych ar y posibilrwydd o wneud cais ar hyn o bryd, gan ystyried cost gwneud cais a chost y gêmau.
“Mae’r Cyngor hefyd yn astudio Gêmau’r Gymanwlad yng Nglasgow a’r Gêmau Olympaidd yn Llundain, i edrych ar sut mae digwyddiadau fel hyn yn gallu adfywio dinasoedd.”
Cynghorwyr yn anghytuno
Mae’r Cynghorydd Huw Thomas yn cefnogi’r cynllun, a dywedodd mewn cyfweliad yn ddiweddar y gallai’r gêmau roi hwb i fwy na dim ond Caerdydd.
“Gall y gêmau fywiogi’r ddinas, ond hefyd y rhanbarth i gyd. Os ydy’r gemau am fod yn llwyddiannus, bydd y rhanbarth yn rhan fawr ohonynt,” meddai.
Ond, y bore yma, roedd cynghorydd Plaid Cymru Neil McEvoy yn mynnu nad oedd hi’n iawn ystyried gwario ar y gêmau tra oedd y Cyngor yn torri’n ôl ar wasanaethau sylfaenol.
Cais ar y cyd
Byddai unrhyw gais ar gyfer y gemau yn fenter rhwng y Cyngor a Llywodraeth Cymru, ac mae’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, wedi dweud bod y gwaith o gynllunio wedi dechrau.
“Mae’r Llywodraeth yn derbyn cyngor am leoliadau posib i gynnal y gêmau,” meddai. “Mae’r gwaith yma wedi dechrau a bydd wedi ei orffen erbyn mis Ebrill, a byddwn ni’n parhau i weithio gyda phartneriaid ar gais posib yn y cyfamser.”
Dyw’r Llywodraeth ddim wedi cyhoeddi beth fyddai cost y gêmau na’r gost o wneud cais.
“Byddwn yn ystyried yn llawn y costau ond hefyd y buddion sy’n dod o gynnal gemau 2014 yng Nglasgow, cyn gwneud penderfyniad ynglŷn â gwneud cais i Gaerdydd,” meddai Carwyn Jones