Taser
Fe fydd dyn yn mynd gerbron llys heddiw ar ôl i Taser gael ei ddefnyddio arno tu allan i Balas Buckingham am ei fod yn dal cyllell i’w wddf.

Cafodd Talhat Rehman, 54, o Lindsay Drive, Harrow, ei weld yn gweiddi tu allan i’r Palas ac yn dal cyllell cyn iddo gael sioc drydanol gan blismon gyda Taser.

Fe fydd yn mynd gerbron Llys Ynadon Westminster heddiw, meddai Scotland Yard. Mae’n wynebu cyhuddiad o fod a chyllell yn ei feddiant mewn man cyhoeddus ac o godi cynnwrf.