Dale Cregan
Fe fydd achos yn erbyn dyn sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio dwy blismones yn dechrau heddiw.

Mae Dale Cregan, 29, hefyd wedi ei gyhuddo o lofruddio tad a mab, David a Mark Short yn y misoedd cyn iddo ladd Nicola Hughes, 23 a Fiona Bone, 32, mewn ymosodiad gwn a grenâd.

Fe fydd Cregan yn ymddangos yn Llys y Goron Preston ynghyd a naw o ddiffynyddion eraill.

Mae disgwyl mesurau diogelwch llym yn y llys.