Archesgob Caergaint, Justin Welby
Mae disgwyl i Archesgob newydd Caergaint ddatgelu heddiw ei fod yn credu y dylai priodas fod rhwng dyn a dynes.
Wrth i Aelodau Seneddol baratoi i bleidleisio ar ganiatáu priodasau hoyw yfory, mae’n ymddangos bod yr Esgob Justin Welby yn fodlon cael ei holi ynglŷn â’r mater dadleuol.
Fe fydd yn cael ei gyfweld am y tro cyntaf ar ôl cael ei gyflwyno’n swyddogol yn ei swydd mewn seremoni yng Nghadeirlan Sant Paul yn Llundain. Mae’n olynu Dr Rowan Williams.
Dywedodd llefarydd ar ei ran bod yr Archesgob yn disgwyl cael ei holi ynglŷn â’r mater ac wedi paratoi atebion o flaen llaw.
“Os yw’n cael ei holi ar y mater, fe fydd yn dweud y dylai priodas fod rhwng dyn a dynes, ac wedi bod erioed,” meddai’r llefarydd.
Mae’r cynlluniau ynglyn a phriodasau hoyw wedi achosi rhwyg o fewn y Blaid Geidwadol. Roedd 20 o gadeiryddion etholaethau’r blaid wedi anfon llythyr o brotest i Dowing Street yn rhybuddio y byddai’r diwygiadau yn achos “niwed sylweddol” i obeithion y blaid yn yr etholiad cyffredinol yn 2015.
Maen nhw’n galw am ohirio’r mesur tan ar ôl yr etholiad er mwyn caniatáu i’r blaid a’r cyhoedd drafod y newidiadau.
Mae disgwyl i 200 o’r 303 o Aelodau Seneddol Ceidwadol bleidleisio yn erbyn y diwygiadau, gan adael David Cameron yn ddibynnol ar ASau Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol i basio’r mesur. Mae’r Prif Weinidog yn frwd o blaid y diwygiadau.