Mae dau blismon a newyddiadurwr wedi cael eu harestio heddiw gan dditectifs sy’n ymchwilio i honiadau o daliadau llygredig i swyddogion cyhoeddus.

Cafodd y tri eu harestio yn eu cartrefi am 6yb ar amheuaeth o’r troseddau rhwng 2004 a 2011, meddai Scotland Yard.

Daw’r datblygiadau heddiw o ganlyniad i wybodaeth sydd wedi cael ei roi i’r heddlu gan bwyllgor safonau a rheolaeth News Corporation.