Anthony O’Sullivan
Bydd cyfarfod llawn Cyngor Caerffili’n cael ei gynnal heno i drafod y codiad cyflog a gafodd ei roi i Brif Weithredwr y cyngor heb fod mwyafrif y cynghorwyr yn ymwybodol o’r penderfyniad.
Mae cyflog Prif Weithredwr Cyngor Caerffili, Anthony O’Sullivan, yn codi o £120,000 i £147,000 ac wedi ei ôl-ddyddio i fis Awst, ac mae 20 o uwch swyddogion eraill wedi cael codiad cyflog hefyd.
Ond yn ôl y Western Mail heddiw, mae Anthony O’Sullivan wedi cyfaddef y gallai’r penderfyniad i roi codiad cyflog fod yn un anghyfreithlon.
Mae hyn oherwydd y ffaith nad oedd y cyfarfod yn cydymffurfio â Deddf Llywodraeth Leol 1972 sy’n dweud bod angen cael tri diwrnod clir o rybudd am gyfarfod cyn ei gynnal.
Ym mis Rhagfyr, roedd 600 o weithwyr y cyngor wedi cerdded allan yn ystod yr awr ginio mewn protest yn erbyn y penderfyniad ond dywedodd y cyngor ar y pryd fod y codiadau cyflog wedi cael eu pasio heb unrhyw wrthwynebiad.