Lloyd George
Fe fyddai’r Democratiaid Rhyddfrydol yn gostwng lefel treth incwm o 20% i 18% yng Nghymru, meddai eu harweinydd.
Wrth ddathlu 150 mlynedd ers geni Lloyd George, y cyn-Brif Weinidog Prydeinig, fe alwodd Kirsty Williams am ‘Gyllideb i’r Bobol’, fel yr un yr oedd yntau wedi’i llunio pan oedd yn Ganghellor yn 1909.
Pe bai Cymru’n cael yr hawl i reoli lefelau treth incwm, fe fyddai hynny, meddai, yn rhoi’r cyfle i ostwng lefel isa’ treth incwm gan arbed cannoedd o bunnoedd i bob teulu yng Nghymru.
Arbed £750 y flwyddyn
“Fe fyddai gostwng y raddfa sylfaenol o 20% i 18% yn arbed £750 y flwyddyn i weithwyr cyffredin yng Nghymru ac yn costio tua £360 miliwn,” meddai Kirsty Williams.
Ond roedd hefyd eisiau edrych ar drefn newydd o drethu, gyda’r pwyslais ar drethi ar bethau ‘gwael’ fel llygredd ac nid pethau ‘da’ fel cael swydd ac incwm – fe fyddai hynny, meddai, yn cyflawni bwriad Lloyd George.
Mae digwyddiadau wedi eu trefnu i ddathlu pen-blwydd geni Lloyd George, yn Llanystumdwy, ei bentre’ ei hun, ac yn Llundain.
Y gwleidydd mwya’ radical
Yn ôl un o’i fywgraffwyr, y gwleidydd Llafur Roy Hattersley, Lloyd George oedd gwleidydd mwya’ radical gwledydd Prydain yn ystod y 150 mlynedd ddiwetha’.
Fe ddywedodd wrth Radio Wales, mai’r Cymro oedd “i bob pwrpas” wedi sefydlu’r wladwriaeth les ac wedi trawsnewid cyfansoddiad gwledydd Prydain trwy wanhau Tŷ’r Arglwyddi.
Lloyd George hefyd oedd un o’r gwleidyddion mwya’ ffraeth erioed, meddai, yn gallu chwalu ei wrthwynebwyr gyda hiwmor.