Mae un o orsafoedd trenau prysuraf Llundain wedi ei chau bore ma yn dilyn tân ar drên.

Mae trenau yn cael eu hatal rhag cyrraedd a gadael gorsaf Victoria ar ôl tân ar drên y Gatwick Express.

Mae’r frigâd dân yn Llundain yn dweud bod diffoddwyr ar y safle ar hyn o bryd.

Ni chafodd unrhyw un eu hanafu ac mae pobl wedi cael eu symud o’r orsaf.

Mae disgwyl oedi hir ar y gwasanaeth bore ma.