Y safle nwy yn Algeria
Mae’r Llywodraeth yn gwneud popeth yn eu gallu i geisio datrys yr argyfwng yn Algeria ar ôl i Brydeiniwr gael ei ladd gan ddynion arfog, meddai’r Ysgrifennydd Tramor William Hague.

Mae nifer o Brydeinwyr ymhlith grŵp o bobl sydd wedi cael eu dal yn gaeth gan filwriaethwyr Islamaidd ar safle nwy BP yn nwyrain y wlad.

Mae grŵp Islamaidd yn honni ei fod yn dal 41 o bobl yn gaeth – gan gynnwys saith o Americanwyr – yn wystl er mwyn dial am ymyrraeth Ffrainc yn erbyn y gwrthryfelwyr ym Mali.