Peter Lewis
Mae dyn wedi ymddangos o flaen Llys y Goron yng Nghaerdydd heddiw ar gyhuddiad o lofruddio dyn anabl 68 oed yn ardal y Rhath ym mis Ebrill 2012.

Cafodd Peter Lewis, oedd ag anableddau dysgu, ei drywanu yn ei stumog wrth ateb drws ei fflat yn Heol Claude yn oriau mân y bore ar 28 Ebrill.

Bu farw o’i anafiadau yn Ysbyty Athrofaol Cymru yn ddiweddarach.

Mae William Stephen Jones, 32, o Adamsdown, Caerdydd yn gwadu llofruddio’r pensiynwr, ac yn honni iddo amddiffyn ei hun wedi i Peter Lewis ddod i’r drws gyda chyllell.

Dywedodd  Peter Murphy QC ar ran yr erlyniad mai ffwlbri oedd honiad Jones, sy’n gaeth i heroin,  a dywedodd mai Jones oedd wedi bod yn cario’r gyllell.

Heddiw, fe glywodd y llys yr alwad olaf a wnaeth Peter Lewis i’r heddlu, wedi iddo gael ei drywanu.  Ynddo, mae Lewis yn dweud ei fod wedi cael ei drywanu a’i fod yn gwaedu yn arw, ac yn apelio ar yr heddlu i frysio.

Roedd Peter Lewis yn byw mewn fflat yn y Rhath lle’r oedd yn cael gofal yn rheolaidd, ond er hyn roedd yn mwynhau cymdeithasu ac roedd yn Gristion brwd.

Dywedodd Peter Murphy bod pawb oedd yn ei adnabod yn ei ddisgrifio fel dyn caredig a hael.

Mae’r achos yn parhau.