Bryn Fon
Mae’r canwr Bryn Fôn wedi bod yn cwrdd ag Aelodau Cynulliad o bob plaid yn y  Senedd heddiw i drafod y ffrae rhwng y BBC ac Eos, y corff sy’n cynrychioli cerddorion Cymru.

Mae Eos, sy’n cynrychioli oddeutu 300 o gerddorion, wedi datgan eu bod nhw am weld gwell cytundeb gan y BBC ar gyfer cerddorion, awduron a chyhoeddwyr.

Dywedodd Bryn Fôn nad ydyn nhw’n nes at y lan ar hyn o bryd ond eu bod yn fodlon cwrdd â’r BBC yn y canol.

Ychwanegodd bod y BBC wedi cynnig talu am broses gymodi annibynnol ond dywedodd eu bod yn pryderu y gallai hynny arwain  at dribiwnlys diwydiannol “a dydyn ni ddim yn gallu fforddio hynny ac maen nhw’n gwybod nad ydan ni’n gallu ei fforddio,” meddai.

Pan ofynnwyd i’r canwr a oedd yn hyderus y byddai’r ddwy ochr yn dod i gytundeb dywedodd: “Dydw i ddim yn siŵr. Mae’n ymddangos i mi nad ydyn nhw (BBC) yn gwybod sut i drafod.

“Dydyn nhw ddim yn deall sut mae bargeinio yn gweithio. Felly da ni’n hapus i’r trafodaethau fynd ymlaen, da ni’n gwybod sut mae bargeinio, dan ni’n gwybod lle da ni isio cyrraedd yn y diwedd. Mae gynnon ni ffigwr yn ein pennau. Maen nhw jest yn deud ‘dyma fo, cymrwch o neu anghofiwch amdano fo’.”

Ers yr anghydfod mae Radio Cymru wedi gorfod lleihau ei oriau darlledu a chwarae cerddoriaeth Saesneg a chlasurol i lenwi’r bwlch. Dywedodd Bryn Fôn eu bod wedi cael llawer o gefnogaeth a’i fod wedi clywed nifer o wrandawyr yn cwyno am safon y gwasanaeth ar Radio Cymru ar hyn o bryd.

Ac mae’r canwr yn rhagweld y gall yr anghydfod bara am chwe wythnos arall.

“Os ydan ni yn gorfod cynnal cyfarfod cyffredinol brys er mwyn cael mandad gan ein haelodau, fe allai gymryd chwe wythnos. Felly, fe all y llanast yma barhau ar Radio Cymru am chwe wythnos arall.”

‘Mater economaidd yn ogystal â diwylliannol’

Dywedodd Simon Thomas, llefarydd yr iaith Gymraeg ar ran Plaid Cymru bod y ffrae yn fater economaidd yn ogystal â dadl ddiwylliannol.

Dywedodd yr AC dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru: “Mae’r arian mae’r PRS yn dalu i Gymru  wedi gostwng  o £2m y flwyddyn yn 2006 i £200,000 y llynedd. Mae hwn yn tanseilio  economi Cymru a’r diwydiant creadigol.

“Roedd Llywodraeth Cymru’n Un wedi derbyn adroddiad gan yr Athro  Ian Hargreaves oedd yn argymell sefydlu corff casglu breindaliadau i Gymru. Gan fod y  Prif Weinidog eisoes wedi derbyn y polisi pam dydy e ddim yn gweithredu? Mae’n hapus i ymyrryd ar fater Pobol y Cwm a TB.”

Dywedodd Simond Thomas bod y ffrae yn  “troi’n ffars” a bod dyletswydd ar Ymddiriedolaeth y BBC i ymdrechu’n galetach i gael y ddwy ochr i gytuno.