Fe fydd prif raglen Newyddion S4C yn symud i slot hwyrach, medd y sianel heddiw wrth gyhoeddi newidiadau i’w hamserlen o fis Ebrill ymlaen.
Bydd y rhaglen Newyddion yn cael ei darlledu am 9yh bob nos Lun i nos Wener, gan symud o’r slot presennol am 7.30 y nos.
BBC Cymru Wales sy’n darparu’r gwasanaeth i S4C ac fe fydd y newidiadau cael eu cyflwyno ym mis Ebrill eleni.
Dywedodd Golygydd Dros-dro Newyddion BBC Cymru Wales, Sharen Griffith: ” Rydym ni’n edrych ymlaen at ail-lansio’r rhaglen ar yr amser cyffrous newydd yma am 9.”
Hefyd, bydd y gyfres ddrama Rownd a Rownd yn symud o’i slot cynnar yn y nos am 6.10, i slot hwyrach am 7.30 bob nos Fawrth a nos Iau.
Bydd y rhaglen gylchgrawn Heno, sy’n darlledu’n fyw o stiwdio Tinopolis yn Llanelli ac o leoliadau ar hyd y wlad, yn parhau am 7 o’r gloch bob nos Lun i nos Gwener, ond bydd rhaglen estynedig awr o hyd bob nos Lun a nos Wener.
Dywedodd Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, “Mae’r newidiadau yma yn ymateb i ofynion ein gwylwyr ac yn rhoi eu hanghenion nhw yn gyntaf.
“Bydd symud Newyddion i slot hwyrach yn y nos yn creu conglfaen newydd i wasanaeth newyddion S4C. Mae’n gyfle i ail leoli’r newyddion a chreu gwasanaeth cynhwysfawr, amserol fydd yn berthnasol i’r adeg honno o’r nos ac i gynulleidfa S4C fydd yn cynnwys newyddion Cymru a’r byd.
“Mae hefyd yn rhoi hyblygrwydd i ni wrth drefnu amserlen y noson. Rwy’n hyderus y bydd symud Rownd a Rownd i slot hwyrach yn gam poblogaidd ac yn cyflwyno’r ddrama i gynulleidfa newydd. ‘Ry ni hefyd wedi gallu cynnig slot hirach i Heno, un o gonglfeini ein hamserlen, ar ddydd Llun a Gwener, gan roi rhagor o sylw i’n cymunedau a gweithgareddau ym mhob cwr o’r wlad.”