Jamaica
Mae’r ymchwiliad yn parhau i farwolaeth merch 8 oed o Brydain a gafodd ei saethu’n farw tra ar wyliau yn Jamaica.
Roedd Imani Green o Balham yn ne Llundain yn ymweld â pherthnasau pan gafodd ei lladd ym mhentref Duncans nos Wener. Credir ei bod wedi bod ynghanol ffrae ffyrnig a bod dyn arfog wedi ei saethu ddwywaith.
Yn y cyfamser mae prifathrawes ei hysgol gynradd yn Tooting, Anne Wilson, wedi rhoi teyrnged iddi gan ddweud ei bod yn ferch “hapus a chwareus”.
Yn ôl adroddiadau roedd Imani Green yn dioddef o anemia crymangell (sickle cell anaemia) ac wedi cael caniatâd yr ysgol i gymryd gwyliau hirach dros y Flwyddyn Newydd.