Mae yna rybudd gan arbenigwyr y gallai rhew, eira ac eirlaw effeithio ar gynlluniau teithwyr ledled Cymru yn ystod yr wythnos.
Roedd rhai wedi darogan y gallai eira gwympo yng Nghymru neithiwr ac y gallai’r tymheredd ostwng i -3C.
Cwympodd rhywfaint o eira yn ardaloedd Caerffili a Sir Ddinbych brynhawn ddoe, ac roedd disgwyl i hyd at 3cm o eira gwympo yn ardaloedd mynyddig y gogledd dros nos.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyhoeddi bod 200,000 tunnell o halen ar gael rhag ofn y bydd angen ei ddefnyddio ar y ffyrdd.
Ychwanegodd fod 500 o gerbydau yn barod i fynd allan gyda halen pe bai angen.
Mae teithwyr wedi cael rhybudd i fod yn ofalus ar y ffyrdd.