Mae’r sêls wedi dechrau – ond ar-lein – gyda chwmnïau’n torri prisiau cyn dechrau’r bargeinion arferol ar y stryd fawr fory.
Yn ôl cwmni ar-lein Amazon mae lefel eu busnes ddydd Nadolig wedi cynyddu 263% yn ystod y pum mlynedd diwetha’.
Erbyn hyn, medden nhw, dydd Nadolig yw diwrnod prysura’r flwyddyn ar gyfer gwrthu llyfrau Kindle a ffeiliau cerddoriaeth MP3.
Mae yna hefyd arferion newydd, fel rhuthr ola’ i brynu cardiau cyfarch tuag 11 y bore a syrffio soffa ar ei anterth tua 4.15 y prynhawn.
“Mae llawer o gwsmeriaid yn siopa ddydd Nadolig mewn ffordd a oedd yn cael ei weld yn y diwydiant gwerthu ddydd Gŵyl San Steffan,” meddai Llywydd Amazon yn Ewrop, Xavier Garambois.