Benjamin Netanyahu
Y Prif Weinidog, Benjamin Netanyahu, sy’n parhau ar y blaen yn y polau piniwn yn Israel, er fod plaid fwy eithafol yn ennill tir.
Mae’r Blaid Gartref, dan eu harweinydd ymfflamychol, Naftali Bennett, ar y ffordd i ennill dwy sedd ychwanegol yn y senedd, gan godi o 11 i 13.
Maen nhw’n mynnu na fyddan nhw’n gadael trefedigaethau anghyfreithlon yr Israeliaid ar dir Palestina – hyd yn oed os bydd y gymuned rhyngwladol yn eu gorchymyn i wneud.
Ar hyn o bryd, mae’r polau’n awgrymu y byddai gan Benjamin Netanyahu a phlaid Likud 35 o seddi allan o’r 120 yn y Knesset, sy’n golygu mai ef fyddai’n arwain clymblaid.
Ond mae hynny’n ostyngiad ar y 39 sedd sydd gan Likud ar hyn o bryd.
Fe fydd y bleidlais ar 22 Ionawr.
Miloedd ym Methlehem
Ym Methlehem, mae miloedd o Gristnogion wedi tyrru i’r prif sgwâr i ddathlu’r Nadolig gan glywed apêl gan arwein ydd yr Eglwys Babyddol yno am ateb heddychlon a fyddai’n cynnwys yr Israeliaid a’r Palestiniaid.
Roedd yna achos dathlu i’r Palestiniaid hefyd – dyma’r Nadolig cynta’ ers i’r Cenhedloedd Unedig gydnabod bodolaeth eu gwladwriaeth.