Mae’r heddlu’n rhybuddio bod sgam ariannol ar ei ffordd i Gymru.

Ar ôl nifer o achosion tros y ffin yn Lloegr, fe ddywedodd Heddlu Gogledd Cymru fod angen i bobol leol fod yn wyliadwrus hefyd.

Mae’r twyll yn dilyn yr un patrwm – rhywun yn galw gan ddweud eu bod yn cynrychioli Action Fraud, sef y llinell Brydeinig i bobol roi gwybod am dwyll.

Fe fydd y galwr wedyn yn dweud bod gan berson hawl i arian iawndal ar ôl rhyw ddigwyddiad neu’i gilydd ond fod angen anfon rhwng £200 a £400 trwy system Ukash er mwyn ei hawlio.

Yn ôl Action Fraud, fyddai eu gweithwyr nhw ddim yn ymwneud â thaliadau iawndal a does dim modd i bobol gael taliadau Ukash yn ôl ar ôl eu gwneud.

Mae modd efnyddio Action Fraud ei hun i roi gwybod am alwdau o’r fath – www.actionfraud.police.uk