Llifogydd Llanelwy - pobol allan o'u cartrefi tros y Nadolig
Mae tri rhybudd o lifogydd yn parhau yng Nghymru tros ddydd Nadolig.
Y disgwyl yw rhagor o gawodydd, heb law eithriadol o drwm, ond mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn dweud bod rhaid aros yn wyliadwrus.
Mae’r tri rhybudd yn ymwneud ag afonydd yn ardal Trefynwy a Dinbych-y-Pysgod ac ar rannau isa’ Afon Dyfrdwy; yn Lloegr, mae yna rybuddion am rai o’r prif afonydd gan gynnwys Afon Hafren.
Y broblem benna’, yn ôl yr Asiantaeth, yw fod y ddaear mor wlyb a hynny’n golygu bod unrhyw law ychwanegol yn llifo’n syth i afonydd a ffosydd.
Mae disgwyl rhagor o gawodydd tros y dyddiau nesa’.
- Yn y cyfamser, fe fydd degau o deuluoedd yn ardaloedd Rhuthun a Llanelwy’n gorfod treulio’r Nadolig mewn llefydd dieithr oherwydd y llifogydd yno ddiwedd mis Tachwedd.