yr Archesgob Vincent Nichols
Does yna ddim cymod yn neges Nadolig arweinydd Eglwys Babyddol Prydain tros briodasau hoyw.

Fe fydd yr Archesgob Vincent Nichols yn defnyddio’r cyfle i ymosod yn fwy chwyrn nag erioed ar y syniad o briodasau rhwng pobol hoyw.

Fe fydd yn cyhuddo Llywodraeth Prydain o weithredu mewn ffordd “Orwellaidd” er mwyn creu fersiwn “ffals” o briodas.

Mae’r Llywodraeth yn bwriadu rhoi’r hawl i bobol hoyw briodi, ond am wahardd Eglwys Lloegr a’r Eglwys yng Nghymru rhag gwneud hynny.