Rowan Williams
Mae Archesgob Caergaint yn dweud ei fod wedi cael ei ysbrydoli gan agwedd Gristnogol pobol sydd wedi diodde’.
Yn ei neges Nadolig ola’ ym mhrif swydd yr Eglwys Anglicanaidd, fe fydd y Cymro, Rowan Williams, hefyd yn dweud bod gwrthod esgobion benywaidd mewn pleidlais eleni wedi gwneud drwg i enw da’r Eglwys.
Ond fe fydd ei brif neges yn un gadarnhaol, wrth sôn am rai o’r bobol y mae wedi eu cwrdd yn ystod ei gyfnod yn Archesgob.
‘Nid rhith’
“Pan fydd pobol yn ymateb i greulondeb a thrais dychrynllyd trwy fod yn barod i frwydro i ddeall a chymodi, ychydig all fodloni ar ddweud mai rhith yw hyn,” meddai Rowan Williams.
Roedd yr enghreifftiau’n cynnwys Israeliaid a Phalestiniaid a oedd wedi dod at ei gilydd ar ôl colli perthnasau yn y brwydro rhwng y ddwy genedl.
Fe fydd Rowan Williams yn gadael Palas Lambeth eleni i gymryd swydd ym Mhrifysgol Caergaint.