Nadolig llawen!
Mae plant yn ganolog i negeseuon Nadoligaidd dau o arweinwyr crefyddol Cymru.
Mae angen i’n byd blinedig, sinigaidd a diflas adennill ymdeimlad plentyn o ryfeddod, meddai Archesgob Cymru.
Dywedodd Dr Barry Morgan fod rhyfeddod yn beth prin heddiw, ond bod rhyfeddod ynghanol stori’r Nadolig.
“Mae oedolion yn tueddu i feddwl mai gŵyl i blant yw’r Nadolig. Mae’n wir ei bod yn ŵyl i blant ond nid yn yr ystyr mae’r rhan fwyaf o oedolion yn meddwl am hynny. Mewn gwirionedd, gall plant ein haddysgu am beth y mae,” meddai.
“Rydyn ni oedolion yn tueddu i ddweud am lawer o bethau, bydded hynny’n stori’r Nadolig, am y rhagolygon o heddwch yn y Dwyrain Canol neu ddiwedd y rhyfela yn Syria neu Irac neu Affganistan, neu am addewidion gwleidyddio,n ein bod wedi clywed y cyfan o’r blaen ac mae gennym dueddiad i ddod yn flinedig, diflas a sinigaidd.”
“Gall plant ein helpu i adennill ein hymdeimlad o ryfeddod. Oherwydd os yw stori’r Nadolig ynglŷn ag unrhyw beth, mae ynglŷn â rhyfeddod,” ychwanegodd.
Newton, UDA
Saethu’r plant mewn ysgol yn Newton, yr Unol Daleithau sydd ym meddyliau Ysgrifennydd Cyffredinol Eglwys Bresbyteraidd Cymru, y Parchedig Meirion Morris.
“Pwy ohonom all ddechrau dirnad y boen a’r loes sydd yng nghalonnau’r teuluoedd hynny? Mae’r rhain, o ganol yr hyn oedd i fod yn dymor o lawenydd mawr, yn gweld y llawenydd yn troi yn alar,” meddai.
Nadolig Llawen!
Ynghanol trafferthion a dathlu, newyddion da a drwg beth bynnag, ar ran pawb yn Golwg360, Nadolig Llawen iawn i chi i gyd!