Rasus Casgwent
Fydd y Ras Genedlaethol Gymreig i geffylau ddim yn cael ei chynnal ar drac Casgwent ar 27 Rhagfyr.

Fe wnaeth swyddogion archwilio cyflwr y trac heddiw a phendefynu bod y tir yn llawn dwr ac mai annoeth fuasai cynnal y ras.

Bydd y ras bellach yn cael ei chynnal ar 5 Ionawr.

Nid dyma’r tro cyntaf i’r ras gael ei goihirio. Digwyddodd yr un peth yn 2010 – ond y tro hynny oherwydd eira.