Lido Afan 0-0 Aberystwyth

Di sgôr oedd hi yn y frwydr tua’r gwaelodion rhwng Lido Afan ac Aberystwyth yn Stadiwm Marstons nos Wener.

Ychydig o gyfleoedd a gafwyd mewn hanner cyntaf diflas. Fe wnaeth Mark Jones rwydo i’r tîm cartref ond roedd yn camsefyll.

Roedd pethau fymryn yn well wedi’r egwyl a bu rhaid i Chris Curtis yn y gôl i Lido fod ar ei orau i atal Jordan Follows, a gwnaeth gôl-geidwad Aber, Mike Lewis, arbediad da o ergyd hwyr Luke Borelli.

Nid yw’r canlyniad yn newid dim yn y tabl gyda Lidao Afan yn aros ar y gwaelod ac Aberystwyth yn nawfed.

(Torf – 177)

.

Caerfyrddin 1-0 Port Talbot

Cododd Caerfyrddin i’r chwech uchaf gyda buddugoliaeth dros Bort Talbot ar Barc Waun Dew nos Wener.

Daeth unig gôl y gêm wedi chwarter awr ac roedd hi’n dîpyn o gôl hefyd. Rheolodd Jonathan Hood y bêl gyda’i gyffyrddiad cyntaf cyn taro chwip o foli ar draws y gôl i’r gornel bellaf gyda’i ail.

Daeth Matthew Rees a Liam Thomas yn agos at ddyblu mantais y tîm cartref cyn yr egwyl ac ychydig o iawn o fygythiad a ddangosodd Port Talbot.

Roedd yr ymwelwyr yn well yn yr ail gyfnod a gwnaeth Steve Cann yn dda i gadw llechen lân Caerfyrddin trwy arbed cynnigion Adam Wright a Lewis Harling.

Mae’r fuddugoliaeth yn codi Caerfyrddin dros Bort Talbot yn y tabl, gyda’r Hen Aur bellach yn bumed a’r Gwŷr Dur yn seithfed.

(Torf – 324)

.

Y Seintiau Newydd 5-1 Gap Cei Connah

Cafodd Gap gweir go iawn gan y Seintiau Newydd ar Neuadd y Parc nos Wener wrth i’r pencampwyr ymestyn eu mantais ar y brig.

Rhoddodd Michael Wilde y Seintiau ar y blaen wedi dim ond pum munud wedi i bas wych Chris Seargeant ddod o hyd i fwlch yn amddiffyn Gap.

Ond unionodd yr ymwelwyr gyda gôl ddigon tebyg dri munud yn ddiweddarach. Pas dreiddgar Ricky Evans yn rhyddhau Rhys Healy y tro hwn a’r blaenwr ifanc yn rhwydo’n hyderus.

Ond dim ond un tîm oedd ynddi wedi hynny gydag Aeron Edwards ac Alex Darlington yn dod yn agos cyn i Phil Baker sgorio i’r Seintiau gyda pheniad syml wedi i gic rydd Seargeant daro’r trawst.

Daeth trydedd y tîm cartref o droed dde Sam Finley wedi deg munud o’r ail hanner, a’r ergyd hon o bum llath ar hugain oedd gôl orau’r gêm.

Ychwanegodd y Seintiau ddwy arall yn chwarter olaf y gêm i droi buddugoliaeth yn gweir. Gorffennodd Chris Mariot symudiad da i ddechrau cyn i Greg Draper rwydo ar ddiwedd symudiad gwell fyth.

Mae’r fuddugoliaeth yn ymestyn mantais y Seintiau ar frig y gynghrair i bum pwynt tra mae Cei Connah yn llithro un safle i wythfed.

(Torf – 423)

.

Bala G-G Bangor

Gohiriwyd y gêm ar Faes Tegid oherwydd glaw.

.

Prestatyn 2-5 Y Drenewydd

Cafwyd canlyniad annisgwyl a gwledd o goliau yng ngêm fyw Sgorio ar Erddi Bastion brynhawn Sadwrn wrth i’r Drenewydd drechu Prestatyn. Er i Andy Parkinson roi’r tîm cartref ar y blaen yn gynnar, fe darodd y Drenewydd yn ôl gan ennill y gêm diolch i hatric wych Andy Jones.

(Torf – 160)

.

Llanelli 2-4 Airbus

Airbus aeth a hi ar Stebonheath brynhawn Sul wrth i drafferthion Llanelli barhau.

Cafwyd dechrau cyffrous iawn gyda phedair gôl yn yr ugain munud agoriadol. Rhoddodd Tom Field yr ymwelwyr o Frychtyn ar y blaen wedi dim ond chwe munud cyn i Craig Moses daro’n ôl gyda dwy gôl mewn saith munud i Lanelli. Ond roedd yr ymwelwyr yn gyfartal ar ôl ugain munud diolch i gôl Wayne Riley.

Tawelodd pethau wedi hynny gan barhau yn gyfartal tan yr egwyl. Ond roedd dwy gôl arall i ddod wedi’r egwyl, y ddwy i’r ymwelwyr. Sgoriodd Riley ei ail ef a thrydedd y tîm hanner ffordd trwy’r ail gyfnod cyn i’r eilydd, Jordan Johnson, sicrhau’r tri phwynt yn hwyr.

Mae’r canlyniad yn cadw Llanelli yn ddegfed ond yn codi Airbus dros ben Prestatyn i’r trydydd safle yn y tabl.

(Torf – 120)