Max Clifford
Mae Max Clifford wedi cael ei arestio gan dditectifs sy’n ymchwilio i honiadau o gam-drin rhywiol gan Jimmy Savile.
Mae ffynhonnell wedi cadarnhau bod yr ymgynghorydd PR wedi ei arestio yn ei gartref yn Surrey am 7:40yb ar amheuaeth o droseddau rhywiol cyn cael ei holi yng ngorsaf yr heddlu yng nghanol Llundain.
Cafodd ei arestio fel rhan o Ymchwiliad Yewtree, sy’n ymchwilio i honiadau o gam-drin rhywiol yn erbyn Savile ac eraill.
Fis diwethaf, dywedodd Max Clifford bod llawer o sêr yn poeni am gael eu llusgo i mewn i’r ymchwiliad oherwydd eu bod nhw wedi ymddangos ar Top Of The Pops neu Jim’ll Fix It ac wedi cael lluniau wedi eu tynnu gyda merched ifanc a Savile.
“Mae’r sefyllfa yn un all droi’n erledigaeth, mae llawer o sêr mawr wedi dychryn,” meddai wrth raglen Daybreak ar ITV. “Ble mae’n mynd i orffen?
“Rwy’n gobeithio y byddan nhw (yr heddlu) yn canolbwyntio ar ddod o hyd i bobl fel Jimmy Savile a oedd yn cam-drin merched.”