Andrew R T Davies
Yn dilyn y bleidlais yn erbyn newidiadau i’r budd-dal treth gyngor yn y Senedd neithiwr, mae’r Ceidwadwyr wedi taro nôl.

Pe bai’r mesur wedi ei basio fel allai wedi helpu mwy na 330,000 o dai yng Nghymru gan ei fod yn caniatáu i gynghorau lleol benderfynu ar lefelau treth gyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

Dywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig mewn cynhadledd i’r wasg heddiw bod ei blaid wedi cael cyfarfod gyda’r Gweinidog dros Lywodraeth Leol, Carl Sargeant, nos Fawrth er mwyn dod o hyd i ffordd i hwyluso pasio’r mesur yn y Senedd.

Ond yn ôl Andrew  R T Davies, er iddyn nhw ddod i gytundeb, roedd pethau wedi newid erbyn amser cinio ddoe wedi i’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, ei wrthod.

Aeth ymlaen i ddweud y byddai’r Ceidwadwyr yn “gweithio’n ddiflino er mwyn dod a’r mesur i rym” a’i bod hi’n haerllyg i’r Llywodraeth ddweud nad oedden nhw wedi cael digon o amser i greu’r mesur.

‘Annerbyniol ac amhriodol’

Dywedodd llefarydd ar ran  Llywodraeth Cymru bod Arweinydd y Ceidwadwyr wedi dod atyn nhw nos Fawrth gyda chyfres o orchmynion “annerbyniol ac amhriodol” er mwyn sicrhau eu cefnogaeth i gael y bleidlais drwy’r Cynulliad.

Dywedodd hefyd eu bod nhw’n beio’r Ceidwadwyr am greu “ansicrwydd ariannol diangen ar 330,000 o aelwydydd yng Nghymru dros y Nadolig.”