Mae bachgen bach wedi marw ar ôl cael ei frathu gan gi, yn ôl yr heddlu.

Dywed Heddlu Gorllewin Mercia bod y plentyn wedi marw yn yr ysbyty fore ddoe ar ôl i barafeddygon gael eu galw i dy yn Telford, Sir Amwythig.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu eu bod yn aros am ganlyniadau archwiliad post mortem ac yn cynnal ymchwiliad i ddarganfod amgylchiadau ei farwolaeth.

“Cafodd yr heddlu ac ambiwlans eu galw i gyfeiriad yn Heol Woodside, Ketley ynglŷn â babi ifanc a oedd yn wael,” meddai’r llefarydd.

“Cafodd ei gludo i Ysbyty’r Princess Royal yn Telford ond bu farw’n fuan wedyn.

“Fel ym mhob achos o farwolaeth plentyn ifanc, mae Heddlu Gorllewin Mercia wedi dechrau cynnal ymchwiliad i geisio darganfod sut y bu farw.”

Deellir bod y ci, oedd yn perthyn i’r teulu, wedi cael ei ddifa.