Benjamin Netanyahu
Parhau mae’r ymosodiadau rhwng Israel a Gaza er gwaetha ymdrechion diplomyddol i ddod a diwedd i’r trais.
Roedd tanciau a llongau Israel wedi ymosod ar dargedau yn Gaza ddoe, tra bod 200 o rocedi wedi cael eu tanio at Israel.
Yn dilyn trafodaethau ddoe rhwng swyddogion Israel a Hamas, roedd ’na obeithion y byddai’r ddwy ochr yn nesáu at gadoediad, ond mae’n ymddangos bod hynny’n ansicr iawn.
“Os oes ’na bosibilrwydd o ddatrys y broblem yn y tymor hir drwy ddulliau diplomyddol, yna fe fyddai hynny’n well gennym ni. Ond os na, yna rwy’n siŵr y gallech chi ddeall y bydd yn rhaid i Israel gymryd pa bynnag gamau sy’n angenrheidiol er mwyn amddiffyn ei phobl,” meddai Prif Weinidog Israel Benjamin Netanyahu yn ystod cyfarfod neithiwr gydag Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, Hillary Clinton.
Fe benderfynodd yr Arlywydd Barack Obama anfon Hillary Clinton i’r rhanbarth i ymuno a grŵp o arweinwyr byd sy’n ceisio dod a diwedd i’r trais.
Fe fydd Hillary Clinton yn cwrdd ag Arlywydd Palestina Mahmoud Abbas yn y Lan Orllewinol ac arweinwyr yr Aifft yn Cairo heddiw.
Fe ymosododd Israel ar 14 Tachwedd mewn ymgais i ddod a diwedd i’r ymosodiadau o Lain Gaza. Ar ôl lladd pennaeth milwrol Hamas, mae Israel wedi cynnal ymosodiadau o’r awyr, gan dargedu rocedi a safleoedd milwrol yn Gaza.
Mae 130 o Balestiniaid wedi eu lladd yn yr ymgyrch a channoedd wedi eu hanafu. Mae pump o Israeliaid wedi eu lladd gan rocedi’n cael eu tanio ar Israel.